Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 30 Mehefin 2020
Amser:
14.00 -
17.32
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6336
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
John Griffiths AS (Cadeirydd) Dawn Bowden AS Huw Irranca-Davies AS Mark Isherwood AS Delyth Jewell AS Caroline Jones AS |
Tystion: |
Miranda Evans, Policy and Programmes Officer, Anabledd Cymru Megan Thomas, Swyddog Polisi, Anabledd Cymru Zoe Richards, Learning Disability Wales Nathan Owens, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus, RNIB Ansley Workman, RNIB Cymru Steffan Evans, Sefydliad Bevan Claire Thomas, Swyddog polisi ac ymchwil, Sefydliad Bevan Gwennan Hardy, Uwch swyddog polisi, Canolfan Cyngor ar Bopeth Cymru Rachel Cable, Oxfam Cymru Catherine Fookes, Women’s Equality Network (WEN) Wales Cerys Furlong, Chwarae Teg Robert Visintainer, Rheolwr y Prosiect, Men's Sheds |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Catherine Hunt (Ail Glerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) Hannah Johnson (Ymchwilydd) Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon - y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.
1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd.
1.3 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai'n gadael y cyfarfod am ryw reswm, y byddai Dawn Bowden AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.
2 Ymchwiliad i Covid-19 a’i effaith: sesiwn dystiolaeth ar anabledd
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Miranda Evans, Swyddog Polisi a Rhaglenni, Anabledd Cymru
· Megan Thomas, Swyddog Polisi, Anabledd Cymru
· Zoe Richards, Prif Weithredwr, Anabledd Dysgu Cymru
· Ansley Workman, Cyfarwyddwr, RNIB Cymru
· Nathan Owen, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus, RNIB Cymru
2.2 Yn ystod y cyfarfod, cytunodd RNIB Cymru i roi gwybodaeth ychwanegol i'r Pwyllgor am hyfforddi cŵn tywys a chadw pellter cymdeithasol.
3 Ymchwiliad i Covid-19 a’i effaith: sesiwn dystiolaeth ar aelwydydd incwm isel
3.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Steffan Evans, Swyddog Polisi ac Ymchwil, Sefydliad Bevan
· Claire Thomas, Swyddog Polisi ac Ymchwil, Sefydliad Bevan
· Rachel Cable, Pennaeth Oxfam Cymru
· Gwennan Hardy, Uwch Swyddog Polisi, Cyngor ar Bopeth Cymru
3.2 Yn ystod y cyfarfod, cytunodd Oxfam Cymru i roi copi o’i adroddiad, 'The Welsh Doughnut 2020' i'r Pwyllgor.
4 Ymchwiliad i Covid-19 a’i effaith: sesiwn dystiolaeth ar rywedd
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Catherine Fookes, Cyfarwyddwr, Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru
· Cerys Furlong, Prif Weithredwr, Chwarae Teg
· Robert Visintainer, Rheolwr Prosiect, Men's Sheds Cymru
5 Papurau i’w nodi
5.1 Gohebiaeth gan y Llywydd ynghylch cais y Pwyllgor am ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar fudd-daliadau yng Nghymru - 17 Mehefin 2020
5.1a Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Llywydd ynghylch cais y Pwyllgor am ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar fudd-daliadau yng Nghymru.
5.2 Gohebiaeth gan Goleg Brenhinol Meddygon Teulu Cymru ynghylch cynllunio gofal ymlaen llaw a chyfarfod y Pwyllgor ar 16 Mehefin
5.2a Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Goleg Brenhinol Meddygon Teulu Cymru ynghylch cynllunio gofal ymlaen llaw a chyfarfod y Pwyllgor ar 16 Mehefin.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
6.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
7 Ymchwiliad i Covid-19 a’i effaith: trafod y dystiolaeth
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2, 3 a 4.